The Project Gutenberg eBook of Cerddi'r Mynydd Du

This ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online at www.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.

Title: Cerddi'r Mynydd Du

Compiler: called G. ap Lleision W. Griffiths

Photographer: Llew Morgan

Release date: September 6, 2007 [eBook #22528]

Language: Welsh

*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CERDDI'R MYNYDD DU ***



E-text prepared by Al Haines



 


 

G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar.

G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar.




Adgof dedwydd am a fu
Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.



CERDDI'R MYNYDD DU


sef

CANEUON HEN A DIWEDDAR


WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y
PARCH. W. GRIFFITHS
(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.



GYDA DARLUNIAU GAN
MR. LLEW MORGAN.



ABERHONDDU:
Argraffwyd gan ROBT. READ,
yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark.

1913.




CYNWYSIAD.


Cyflwyniad
With Droed y Mynydd Du
Adgofion Mebyd
Llynau'r Giedd
Shon Wil Khys
Pen y Cribarth
Yn y Mawn ar ben y Mynydd
Bugail y Mynydd Du
Hela'r Twrch Trwyth
Afon Giedd
Ffaldau Moel Feity
Y Llynfell
Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam
O'r Niwl i'r Nef
Gwilym Shon
Llyn y Fan (Gwatwargerdd)
Ffrydiau Twrch
Angladd ar y Mynydd Du
Y Gof Bach
Ffynon y Brandi
Dafydd y Neuadd Las
Cyw
Llyn y Fan
Ar y Banau
Breuddwyd Adgof
Cân y Dwyfundodiaid




Illustrations


G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . Frontispiece

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 0 flynyddoedd.

Bryn-Y-Groes.

Mynwent Cwmgiedd.

Gored Y Giedd.

Trem I'r Mynydd Du.

Cwmgiedd (Rhan Isaf).

Ffynon-Y-Cwar.

Pont-Ynys-Twlc.

Penparc.

Llocior'r Defaid.

Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.

LLyn-Y-Fan.




Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd.  Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.



Bryn-Y-Groes.

Bryn-Y-Groes.




CYFLWYNEDIG

1

GRIFFITH DAVIES, Ysw.,

SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.


At foneddwr—brodor glân,
Lyfr bychan, dos a'th gân,
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn—
Cerddi bro ei faboed gwyn.

Yma gwelodd gynta'r byd,
Giedd suai gwsg ei gryd,
Yn ei dyfroedd laslanc llon
Dysgodd gyntaf nofio'r don,
Ar ei glanau yfai ddysg,
Yn ei llynau daliai'r pysg.

Am flynyddau wedi hyn
Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.
Anturiaethus fu ei daith
I'r pellderoedd lawer gwaith;
A chyfrinach anian gu
Glywodd ar y Mynydd Du.

Myn brodorion yr Hen Wlad
Adrodd beunydd mewn mwynhad
Am ei deithiau yma a thraw
Gyda'i lyfr yn ei law;
Hoffai wybod meddwl dyn,
Meddwl Duw yn fwy na'r un.

Haf a gauaf, tes a gwynt,
Carai fyn'd i'r Capel gynt,
Rhoes ei ddawn yn offrwm byw
Ar allorau sanctaidd Duw;
Casglodd yma fanna bras,
Canodd yma gerddi gras.

I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,
Yn yr Ysgol, athraw cu;
Ei ddisgyblion dros y byd
Dystiant am ei wersi drud,
Hauodd ef ar lawer dol,
Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.

Diwrnod yn y cwmwl trwm
Ydoedd hwnw yn y Cwm
Aeth a'r delfryd lanc di-ail
Tua gwlad machludiad haul;
Yn y cwmwl nid oedd gwên,
Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.

Mae blynyddau maith er hyn,
Newid sydd ar fro a bryn;
Hen gyfoedion wedi myn'd,
Nid oes mwy ond ambell ffrynd,
Yntau fry ar dyrau llwydd
Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.

Daw hanesion dros y dón,
Hanes glân fel ewyn hon,
Hanes calon eang, hael,
Fedra roi mor llon a chael,
Hanes bywyd sydd a'i fryd
Beunydd i brydferthu byd.

Frodor anwyl, hoff yn awr
Ganddo gofio llwybrau'r wawr,
Mae y Mynydd Du o hyd
Iddo'n gyfrinachau'i gyd,
Salmau'r neint sydd ar ei glyw—
Mynydd ei Wynfydau yw.

Lyfr bychan, dos a'th gân
Drosodd i'r boneddwr glân;
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn—
Cerddi gwlad ei faboed gwyn.

G. AP LLEISION.




Wrth Droed y Mynydd Du.

'Roedd blodau ar y dyffryn,
A Mai o dan y coed,
Yn chwareu gyda'r awel
Yn lion ac ysgafn droed:
Fe ganai y fwyalchen
Ar gangen las uwchben,
Heb wrando cyfrinachau serch
Y ddau oedd dan y pren.

Fe welsant flodau'n tyfu
Ar bedwar-ugain Mai,
Ond welodd neb er hynny,
Eu serch yn myn'd yn llai;
Adroddant wrth en gilydd
Adgofion blwyddi fu,
Pan rodient dan oleuni'r lloer
Hyd llethrau'r Mynydd Du.

"'Rwy'n cofio'r noson gyntaf
I'th welais, f'anwyl un,
Pan deimlais yn fy nghalon
Fod mellt yn llygad mun;
'Rwy'n cofio'th wylio'n rhedeg
Fel ewig dros yr allt,
A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen,
A'r aur oedd yn dy wallt."

"Ond dofi wnaeth y fellten
Oedd yn dy lygad, Gwen,
Ac yn lle aur daeth eira
I aros ar dy ben:
Mi garaf eto'th lygad,
Fy nghariad, clyw fy ngair,
A charaf eto'r eira, Gwen,
Fel cerais gynt yr aur."

"'Rwy'n cofio gofyn iti,
O dan y bedw bren,
A wnaethet fy mhriodi,
Addewaist tithau, Gwen:
Ysbio rhwng y cangau
'Roedd goleu llwyd y lloer,
A ninnau rhwng ei llewyrch, Gwen,
Heb deimlo'r gwynt yn oer."

"'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd,
A'r nef yn las uwchben,
Pan unwyd ein calonnau,
Fe gofi dithau, Gwen:
Ti wridaist wrth yr allor
Fel cwmwl cynta'r wawr;
A chrynu wnai fy nghalon, Gwen,
Fel gweli'm dwylaw'n awr."

"Fe gododd llawer storom,
Fe'n curwyd gan y dón,
Bu llawer pryder chwerw
Yn llechu dan ein bron;
Cyn hir â'r storom olaf
I blith y stormydd fu,
Ac huno gawn yn dawel, Gwen,
Wrth odreu'r Mynydd Du."

Abercrave.
R. BEYNOK, B.A.



MYNWENT CWMGIEDD.

MYNWENT CWMGIEDD.




Adgofion Mebyd.

Heda meddwl i'r gorphenol,
I baradwys bore oes,
Pan oedd bywyd yn ddymunol,
Pryd na chwythai awel groes;
Cysegredig oedd y twyni
Lle chwareuem amser gynt,
Nid oedd gofid wedi'i eni,
Nid oedd brad yn swn y gwynt.

Yr oedd engyl ar y llwybrau,
'N syllu arnom hyd y ffyrdd,
Eden ydoedd "Penyffaldau,"
Lle treuliasom oriau fyrdd;
Oriau glân heb wag oferedd
I lychwino'r tymhor gwyn;
Darn o'r nef yn ein hedmygedd
Oedd y llecyn prydferth hyn.

Cynal oedfa wedi'r oedfa
Wnelem ni ar ben y Bryn,
Nid oedd neb yn gwag-rodiana
Y nos Suliau sanctaidd hyn;
Pobi ieuainc yn finteioedd
Dyrent yma wedi'r cwrdd,
Gan orfoledd naws y nefoedd,
O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.

Cofio'r adeg pan neillduem
I ryw gonglau unig iawn,
Yno'n fynych yr arferem,
Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;
Adrodd darnau y "Pen Chwarter,"
Er eu gloewi, wnelem 'nawr,
Yna wedyn gan ein hyder,
Nid oedd neb yn tori lawr.

Ambell noson deg o'r wythnos
Gwelid ni dan lwyni heirdd,
Fel "derwyddon" yr hen oesau
Yn cael orig gyda'r beirdd;
"Oriau'r Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"
"Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,
A ddarllenem am y gore,
Cyn bod son am football news.

Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"
A llinellu yn ddiball,
A chael ffrwd o grechwen iachus
Wrth ddarganfod ambell wall;
Hyn yw'r rheswm fod fy ardal
Wedi codi beirdd o nod,
Wrth fyfyrio pethau ofer
Ellir byth gyrhaeddyd clod.

Wrth ymlwybro tua'r Capel
Dros y bryn, y waun, a'r ddol,
Nid oedd calon un addolydd
Yn dychmygu pethau ffol;
Gwelem Dduw yn mrig y perthi
'N llosgi, megys Moses gynt,
Caem ein dwyfol ysbrydoli,
A'n gweddnewid ar ein hynt.

Seiniau adar bach y llwyni
Dorai'n fiwsig ar ein clyw,
Yr oedd natur yn ein tywys
Tuag allor cysegr Duw;
Megys Enoch gynt yn rhodio
Rhodiai tadau dros bob rhiw;
Dal cymundeb â'r ysbrydol
Ydyw rhodio gyda Duw.

GWILYM WYN.




Llynau'r Giedd.

Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,
A chanaf i dy Lynau,
Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes,
Fu rhai'n ar hyd yr oesau;
Bum innau'n chwareu lawer tro,
A nofio yn eu dyfroedd,
A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,
Oedd imi'n haner nefoedd.

Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"
A brwd oedd plant am dano,
Nid oedd ei debyg yn y wlad
I chware' tra'd a dwylo';
Ei waelod welodd llawer un,
A blin fu'r ymdrech droion
I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon
I farchog ton yr afon.

"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych
Pan fyddo sych yr afon,
A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun
Addolai'i hun yn gyson;
Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn
Yn ewyn gwyn cynddaredd,
Yn synu pawb bydd dyfroedd iach
Niagra fach Cwmgiedd.

Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,
Er cymaint son am dano,
Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon
Sy'n llifo'n gyson iddo;
Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin
Yn mhoethder hin yr hafau,
Pan sych yr afon yn mhob man,
Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.

"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,
Mewn creigle mae ei wely,
A physg yr afon dd'ont yn llon
O dan ei don i gysgu;
Mae Dafydd Morgan yn ei fedd,
A Giedd eto'n llifo,
Ond aros mae y llyn o hyd,
A'r byd yn myned heibio.

"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,
Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,
Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif
Yn adfail er's canrifoedd;
Bu llawer rhod o dan ei don
Yn gyson ei throadau,
A holi'n segur mae o hyd—
Pa le mae yd y tadau?

Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,
Cymydog yw i'r mynydd,
A'r miloedd defaid yn yr ha'
A olchir yma'n ddedwydd;
Os du ei don, daw'r praidd yn wyn
I'r cnaif o'r llyn yn gyson,
A thra bo'r Mynydd Du, parhâ
Yr "Olchfa" yn yr afon.

Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,
Ar ffordd y Fan a'r Carnau,
Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch,
A glyw y croch raiadrau,
Dyfnder yn galw dyfnder sy'
Yn gry' ar hyd y mynydd,
A Giedd lama'n ewyn gwyn
O lyn i lyn i'r Werydd.

Cwmgiedd.
RHYS POWEL (Yorath).




Shon Wil Rhys.

'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,
Ac yn gwisgo'r blewyn brith,
Hen gymeriad hynod ydwyf,
Wedi'i fagu yn eich plith;
Nid oes neb sydd yn trigianu
Yn nghyffiniau afon Gwys
Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach
Yn y wlad na Shon Wil Rhys.

Caled i mi a fu bywyd,
O'i gychwyniad hyd yn hyn,
Megys myrtwydd heb wên heulwen
Dan gysgodau dwfn y glyn;
Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion,
Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,
Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo,
Ac heb daro'n erbyn craig.

Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,
Os mai llwydaidd yw fy ngwisg,
Nid yw'n deg i neb i farnu
Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;
Haera rhai na ches fy nghrasu'n
Ddigon caled, medde'n nhw,
Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r
Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.

Llawer coegyn sydd am wneuthur
Ffwl o honwyf lawer pryd,
Peidiwch chwi er hyn camsynied,
Y mae Shoni yma'i gyd;
Os yr ydwyf yn ddiniwed,
Nid wyf fi i gyd yn ffol,
Nid y fi yw'r unig berson
Fu fel Dafydd yn nillad Saul.

Pan yn nghryfder nerth ac iechyd
Teithiais lawer ar fy hynt,
Trwy gul gymoedd a thros fryniau
I gyrddau mawr yr amser gynt;
Yno wylo, neidio, a moli,
A rhoi proc i'r hen Amen,
Rhoddais oil ar wheel y bregeth
Ganwaith cyn y doi i'r pen.

Mae'r pregethwyr doniol hyny
Bron i gyd yn llwch y llawr,
Yn adgofio am eu haeledd
Y mae llawer hen got fawr;
Nid oedd un pregethwr enwog
Yn y de na'r gogledd draw
Na fum i ryw dro yn rhywle
Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.

Hen bregethwyr tanllyd Cymru,
Yn y wlad ac yn y dref,
Oedd y dyddiau gwlithog hyny
Yn gynefin iawn am llef;
Os pregethwyr mwy dysgedig
A gyfodwyd yn ein plith,
Hen bregethwyr cynt, er hyny,
I Shon Rhys am fêl a blith.

'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,
Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,
Os yw'r llwybr yn gerygog,
Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;
Os yw cefnfor f'oes yn arw,
Yn ddiangol af i'r lan,
Daw y porthladd clyd, dymunol,
I fy ngolwg yn y man.

Parch. D. ONLLWYN BRACE.




Pen y Cribarth.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth uchel?
I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,
Ar war y clogwyn tawel,
Ac yfed iechyd dros ei fin,
O gwpan gwin yr awel.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth Talfrig?
I edrych ar y fywiog fro
Sydd dano yn weledig,
Ardaloedd eang hyd y môr
Yw'r oror estynedig.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth eto?
I dremio draw i ben y Fan,
'Does dim ond anian yno—
Yn fynydd mawr, a defaid mân,
A nentydd glân yn llifo.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth golau?
Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn
Ddaeargryn yu y creigiau,
Cawn ddarllen ar bob careg bron
Hanesion o'r hen oesau.

Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth beunydd,
Ac uno ym mheroriaeth lon
Alawon yr ehedydd;
Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw,
Pwy na ddaw yn addolydd?

Maesyderi, Abercrave.
T. J. DAVIES (Iscoed).




Yn y Mawn ar ben y Mynydd.

Ar y mynydd yr emynaf,
Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;
Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Awel bur a haul y boreu,
Yma geir fel am y goreu,
Yn rhoi yni i'r awenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ond, er hyny, nid yr anial
Mawnog hwn yw'r man i gynal
Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ar y bryniau mawr wybrenol
Mae dystawrwydd mud, ystyriol,
Yn sobreiddio naws boreu-ddydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ni cheir cor yn chwareu carol
Yn y llwyn yn llu awenol;
Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Chwery un â chywir anian,
Ei grwth unig wrtho'i hunan;
Cu iawn ydyw cân ehedydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ef yw cerddor dor y daran,
Difraw troedia fro y trydan;
Bwria'i unawd o'r wybrenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

GORED Y GIEDD.

GORED Y GIEDD.


TREM I'R MYNYDD DU.

TREM I'R MYNYDD DU.

O bell clywir y gog dirion,
Gyda'r awel o'r godreuon,
Efo moliant haf ymwelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Draw ac yma drwy y cymoedd,
Cri a glywir o'r creigleoedd,
Bywiog alaw y bugeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Truman cribog, muriog, mawrion,
A'u hesgeiriau yn ysgyrion,
Yma wyliant uwch y moelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Metha'r haf a'i fwynaf wenau,
Wyrddu llen i ben y banau;
Oeda'r gauaf yn dragywydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ymherodraeth y mawr wywdra,
Heb eginyn bywiog wena;
Lle ni chawn na llwyn na chynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ac ar fynwes cwr y fawnog
Torwyd lluniau traed y llwynog,
Heibio hwylia yn ysbeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ar y clogwyn mawr cilwgus
Haf awelon sydd yn felus,
A chael enyd fach o lonydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Mwynhau heddwch y mynyddoedd,
A mwynderau y mawndiroedd,
Sy'n baradwys iawn i brydydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

GWYDDERIG.




Bugail y Mynydd Du.

Rhys oedd bugail y Mynydd Du,
A theilwng fab y wawrddydd,
Yn nghwmni Toss, ei hanes fu
Fel chwedl ar y mynydd.

Arferai godi gyda'r haul,
Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,
A mynai yn ei belydr glân
Gael bedydd tan bob borau.

Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu
Fe ddeadellai'r defaid,
A Toss yn barod, wrth ei law,
I wneud ei arch a'i amnaid.

Y gauaf fel yr haf o hyd
Bu ef yn ffyddlon iddynt,
Wynebai storm Bwlch-adwy'r-gwynt,
A dryccin eira, drostynt.

A chalon ysgafn oedai'n hir
Yn awyr iach y bryniau,
Tra'r awel bur a'i phwyntyl llon
Yn lliwio'n goch ei ruddiau.

Fe garodd edrych dros y ddôl
Draw i bellderau'r mynydd,
A gwrando swn y nentydd byw
Yn galw ar eu gilydd.

Fe godai'i lais mewn hapus gân
O ddiolchiadau calon,
A chododd allor lawer gwaith
Ar ben y Cerrig Coegion.

Ar ben y mynydd—pell o'r dref,
Nef oedd agosaf iddo,
Newyddion byd a aent yn hen
Wrth deithio tuag ato.

Felused iddo yn yr hwyr
Oedd cysgod clyd ei fwthyn,
A Men ei briod wrth y tan
Ar aelwyd y Twyn Melyn.

Aeth llawer gauaf dros ei ben
Yn stormydd ar y bryniau,
Cyn iddo groesi dros y glyn
I wlad yr hafddydd golau.

Mae Men ac yntau yn y bedd,
Ac adfail yw y bwthyn,
Ond gwena'r haul a brefa'r praidd
O hyd ar ben Twyn Melyn.

Abercrave.
RHYS DAVIES (Ap Brychan).




Hela'r Twrch Trwyth.

(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at Arthur i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r helfa. Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r Iwerddon drwy Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond diangodd y Twrch a'i fywyd ganddo.—MABINOGION.)

Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw Cwmtwrch.

Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,
A'i swn dros y moroedd adseiniodd yn syn,
A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,
Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.

Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,
A dewrion gwyr Llydaw, a Norman a Ffrainc,
A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant ac wyth,
Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch Trwyth.

Marchogion a groesent y tonau yn awr
Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r haf ar y llawr,
A bloeddiai'r Gwyddelod—"Daeth dydd talu'r pwyth,
Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."

Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,
A'r Twrch a'i saith berchyll a glywent y swn.
A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,
A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.

Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr
O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y wawr.
A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,
Gan wenwyn llysnafedd o enau Twrch Trwyth.

Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt
Troes Twrch ei gyfeiriad a'i wrych yn y gwynt,
A'r helwyr yn dilvn—ni fu y fath lwyth
O wyn ar y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.

Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,
Bu dychryn drwy'r dalaeth ac alaeth a gwaedd.
A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,
Ddifrodwyd o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.

O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,
Ac helwyr a helgwn yn dilyn yn dyn.
Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,
A ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.

Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,
Llwynmoch a Chwmclyd a dialwn ein cam,
A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un llwyth,
Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."

Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,
Drwy'r erchyll ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.
Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol pwyth
Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.

CWMGIEDD (RHAN ISAF).

CWMGIEDD (RHAN ISAF).

Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,
(Mae'r cread yn deilchion fan hono yn awr).
Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth
Yn swn dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.

Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,
A rhanwyd ei berchyll, ond ef yn ei wanc
A groesodd i'r Tywi—yr olaf o'r wyth,
A'r awyr yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.

A misoedd a biwyddi o hela a wnaed
Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a gaed,
Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,
O'r Hafren i Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.

Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,
Ac Arthur yn Nghernyw mewn cwsg byth mae e'.
Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a llwyth
Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.

G. AP LLEISION.




Afon Giedd.

Mae afon chwyrn y Giedd
Yn tarddu yn y mawn,
Daw ar ei phen i waered
Dros greigydd enbyd iawn;
Ar gefn ei chroch raiadrau,
Ddiwrnod mawr ei lli,
Daw darn ar ddaro o'r creigiau
Yn 'sglyfaeth gyda hi.

Hi dwmla bobls mawrion,
Dynelli o bob rhyw,
A chaiff ei hadgyfnerthu
Gan afon rymus Cyw;
Mae'n myn'd dan wraidd y coedydd,
A charia'r rhai'n drachefn,
A diorsedda'r pontydd,
Nes gwneud y lle'n ddidrefn.

Un boreu yn Gorphenaf,
Mi gofiaf yn ddilai,
Pan ddaeth ei llif dychrynllyd
I gym'ryd wyth o dai;
Y Cwm sy'n ofni'r afon
Byth wedyn ar y gwlaw,
A'r nos ni feiddia gysgu
Rhag arswyd llif a ddaw.

Ofnadwy ar ein clustiau
Yw swn ei chenllif hi,
A'r cerrig mawrion fflachiant
Yn wreichion yn ei lli';
Ei tharth a gwyd i fyny
Yn gwmwl tua'r nen,
A gwaedda yn gynddeiriog,
'Mi fynaf fod yn ben.'

Mae pawb yn cyfreithloni
Yr enw gafodd hi,
A chiaidd, ciaidd ydyw
O fewn ein dyddiau ni;
Ond Ef sy'n dal y wyntyll,
A'r dyfroedd yn Ei law,
Ostega ei chynddaredd
A'r gair bach hwnw, 'Taw.'

Os rhuo mae y Giedd
Am gael ei ffordd ei hun,
Da genym fod ei Harglwydd
Yn noddfa byth i ddyn;
Mae'r plant sydd ar ei glanau
Yn anwyl ganddo Ef,
A diogel yn mhob dryccin
Yw etholedig nef.

Wrth wel'd y gwyllt lifeiriant
Yn pasio drws fy nhy,
Mae'r wers o flaen fy llygaid,
'Mod inau fel ei lli',
Yn myn'd i'r goriwaered,
I'r tragwyddoldeb pell;
O! Arglwydd, pan gaf orphwys,
Rho imi wlad sydd well.

Cwmgiedd.
HOWELL POWELL.




Ffaldau Moel Feity.

Wrth droed y Foel arddunol,
Ger murmur Tawe fwyn,
Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,
Rhwng meini braf a brwyn;
O'u cylch mae'r bryniau uchel
Yn gwenu uwch eu pen,
A'r Fan yn spio arnynt
Drwy gymyl yn y nen.

Mor swynol ydyw canfod,
Ar foreu hafddydd gwyn,
Y defaid dirifedi
Yn britho'r bryniau hyn;
Y'mysg y cerrig garw
Sy'n gestyll rhag y gwynt,
Llochesant rhag ystormydd
Dramwyant ar eu hynt.

Amaethwyr Crai a Llywel,
Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,
A foreugyrchant yma,
Mi welir neb yn ol;
Daw hefyd wyr Llanddeusant
Ar eu ceffylau bach
I geisio'r defaid crwydrol,
A'u dwyn hwy adre'n iach.

Ceir gweled gwyr Glyntawe
A'u gyroedd yma'n dod,
Ni fu y fath brysurdeb
Mewn unrhyw fan erio'd:
Pob un a'i gi a welir
Yn casglu'r praidd o'r bron,
A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,
Rhwng muriau cedyrn hon.

Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,
Bydd pawb yn brysur iawn,
Pob un yn dal ei eiddo
I'w Ffald ei hun a gawn;
Os digwydd ambell ddafad
Estronol yma ddod,
Bydd llawer llygad arni
Yn ceisio gwneud ei 'nhod.'

Wrth droi a thrafod llawer
Fe welir ambell un
O'r defaid, dros y muriau,
Yn cym'ryd ffordd ei hun;
Ac ar eu hol yn sydyn
Bydd tyrfa fawr o gwn,
A'r lle yn haleliwia
Byddarol gan y swn.

Doethineb cenedlaethau
O ffermwyr yma fu,
Yn traethu am hanesion
Helyntion Mynydd Du;
Adroddent am wrhydri
Yr hen fugeiliaid gynt,
Ac enwau'r cwn a glywir
O hyd yn myn'd drwy'r gwynt.

Mor ddedwydd ydyw bywyd
Cyffredin gwyr y wlad,
Yn heddwch y mynyddoedd
Mae iddynt wir fwynhad;
Fe gollir y bugeiliaid,
Rhai newydd ddaw o hyd,
Ond erys y mynyddoedd
Heb newid oesau'r byd.

Ystradgynlais.
LLEWELYN JONES.




Y Llynfell.

Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw
Castell Craig-y-nos.

Fuoch chwi wrth Danyrogof?
Welsoch chwi y temlau cain?
Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell
Fel organ gref yn llanw rhain?

Welsoch chwi wrth droed y clogwyn
Fel y rhuthra ffrwd mor falch
I oleuni o dywyllwch
Llwybrau cudd y cerrig calch?

Bu yn hir yn nwfn gysgodion
Bro y gwyll—heb wawr na rhos;
Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau
Unig yn rodfeydd y nos.

Carwn wybod peth o hanes
Gwlad heb flodyn ynddi hi,
Heb un deryn bach yn canu;
Heb un ganghen uwch ei lli.

Ond fe geidw ei chyfrinach,
Ni fyn son am ddim sy'n ol;
'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;
'Aros' ydyw hanes dol.

Dywedir fod ei dyfroedd gloew
Yn newid lliw cyn delo gwlaw;
Dyma broffwyd llwyd y Blaenau—
Wêl y ddrycin cyn y daw.

Ni wyr hi ddim am dymhorau,
Welodd hi erioed mor ha';
Ni fu gauaf yn ei rhwymo
Yng nghadwynau oer yr ia.

Y mae rhamant yn ei hanes,
Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,
Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd
Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.

Afon fechan, megis tithau,
Minau garwn deithio'n rydd,
Drwy gysgodion, i oleuni
Pen y daith yng Ngwlad y dydd.

Corrig Haffes.
MYFYR MAI.




Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.

Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,
Wisga'n fore ar ei bron,
Mae'n gwresawu pob pelydryn
Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,
Natur fu yn paentio'i aeliau
Gyda phluen awel rydd,
Wrth ymolchi mewn pelydrau
Gwyna amrant llygad dydd.

Lygad siriol lawn cyfaredd
Yn agored o fy mlaen;
Ei fychander yw ei fawredd,
A'i holl rwysg yw bod yn blaen;
Try i ffurf a lliw yr huan
Wrth gwmnia gydag ef,
Er dadblygu'u lygad gloew-lan,
Aros wna yn nhês y nef.

Lygad effro, nad yw'n hepian
Nes yr huna anian dlos,
Yn ei wynder, wrtho'i hunan,
Gwena'r dydd a chysga'r nos;
Dysgwn wers y glân flodeuyn,
Yn y gwlith ei lygad ylch,
Fel na chenfydd un brycheuyn
Yn y llygaid sydd o'i gylch.

Lygad dydd, a chanwyll eurliw
Yn ei ganol, megis tân,
Ai nid heulrod glaswellt ydyw
Egyr ag ymylwe mân?
Er ei fod yn nghanol tyrfa
O'i wyn-frodyr ar y waen,
Wrth yr un ni chenfigena,
Mae ei burdeb yn ddi-staen.

Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa
Ben y clawdd am sylw'r byd,
Mewn dinodedd y cartrefa,
Gyda'r blodau lleia'i gyd;
Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwydd
Ddysga wersi i lawer un,
A ddisgynodd i ddinodedd
Wrth wneud duw o hono'i hun.

Dena lygad rhyw forwynig,
Sycha'i sendyl yn y gwlith,
Wrth dramwyo'r llwybr unig
Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;
Plyga'n wylaidd i anwylo
Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'
Am fod arall yn blodeuo
Ar hoff fedd ei thad a'i mam.

Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,
Gan ei adael ar y ddôl,
Wrth fiarwelio, 'rwyf yn credu
Ei fod yn syllu ar fy ol;
O! am fyw ei fywyd gloew,
Gyda chalon onest, rydd,
Fel y gallwn, cyn fy marw,
Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.

GWILYM WYN.




O'r Niwl i'r Nef.

[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau crefyddol.]

Rwy'n mynd, fy nhad a mam,
I wlad na ddof yn ol;
'Rol teithio llawer cam
Dros lawer bryn a dôl.
Rwyf wedi blino'n lân,
Fy nerth sydd yn gwanhau,
Mae afon o fy mlaen,
A niwl o'm cylch yn cau.
Tuhwnt i'r Mynydd Du,
Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,
A thuag atti hi
Rwy'n mynd, fy mam a nhad.

Rwyf wedi colli 'm ffordd,
Fy ffryndiau sydd ar goll,
A minnau yn y nos
Yn chwilio am danynt oll.
Ond nid oes un a ddaw
I'm cwrdd yr ochr hyn,
Ond mae yr ochr draw
Yn llawn o engyl gwyn.
Ac fel yn dweud i gyd,
Na chaf fi unrhyw gam,
Rwy'n mynd i'r bythol fyd,
Ffarwel, fy nhad a mam.

Mae afon o fy mlaen,
Rwy'n clywed swn y don;
Rwy'n gweld y rhai sy'n byw
Tuhwnt i ffrydiau hon.
Mae melus hun yn dod,
'Rol dydd o ludded maith,
A minnau 'n teimlo fod
Gorphwysfa ar ben y daith.
I groesi 'rochr draw,
Nid oes ond megis cam,
Rwy'n mynd i'r byd a ddaw,
Ffarwel, ffarwel fy mam.

WATCYN WYN.




Gwilym Shon.

Mae Gwilym Shôn yn awr yn hen,
Mae'r eira ar ei ben,
Yn araf ddisgyn dros ei en
Nes gwneyd ei farf yn wen;
Ar fin y nant mae'i fwthyn tlawd
Yng nghwmwd godreu'r bryn,
Ni wyr rhwysgfawredd pell a ffawd
Ddim am y bwthyn hyn.

Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,
A chysgu'n esmwyth wna,
Hyd nes daw'r wawrddydd drwy y dellt
I ddywedyd "Bore da;"
Ac yn ei goleu daw i lawr,
Ac ar ei liniau trwm
Gweddio wna yn ngoleu'r wawr
Gerllaw ei wely llwm.

Un hoff o'r mynydd yw efe,
Bydd yno'n fore iawn
O olwg pobman ond y Ne',
Rhwng y twmpathau mawn;
Heb wybod am rwysgfawredd dyn,
Na moethau'r palas gwych,
Mae yno'n siarad wrtho'i hun,
A bwyta'i damaid sych.

Bu ef mewn gweddi lawer gwaith
Yng nghysgod llwyn o frwyn,
A bu yr awel ar ei thaith
Yn ewrando ar ei gwyn.
Fe safodd ganwaith ar y bryn
I gofio'r dyddiau gynt,
Ac mewn myfyrdod elai'n syn
Cyn cychwyn ar ei hynt.

Yn fore, bore, bydd ar daith
Yn rhodio'i lwybr cam,
A chadd foreufwyd lawer gwaith
Yn mwthyn bach fy mam;
Fe wyddai mam heb unrhyw gais
Pa bryd oedd Shôn am fwyd,
Hi adnabyddai wrth ei lais,
Ac wrth ei wyneb llwyd.
A phan yn bwyta'i damaid mwyn,
A ninnau'r plant gerllaw,
Murmurai Shôn mewn banner cwya
Am bethau'r byd a ddaw.

Wrth rodio'r caeau 'nol a blaen
Nid yw am gwrdd a'r un;
Fe groesa ef ar draws y waen
Er cael bod wrtho'i hun;
A siarad mae pan ar ei daith
O hyd mewn distaw dôn,
Nes wy'n dychmygu ambell waith
Fod angel gyda Shôn.

Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,
Yn cilio tua'r pant,
Ac yntau dianc fry i'r bryn,
Yn cilio rhag y plant.
Diniwed yw, yn ofni'r byd
Ei wawdio ar ei hynt,
Tra'n gafael mae ei serch o hyd
'Nol yn yr amser gynt.

'Does ganddo awrlais yn y byd,
Na modd ychwaith i'w chael,
Ond adnabydda ef o hyd
Yr amser wrth yr haul;
Proffwydo'r tywydd teg o draw,
Ni fethodd ef erio'd,
A chanfod mae y gawod wlaw
Ddiwrnodau cyn ei dod.

Mae yn y capel erbyn pryd
Ar fore Sabboth Duw,
Y mae ei weddi dawel, fud,
Yn gwneyd ei fawl yn fyw;
Ac os dechreua cennad Iôn
Ddarlunio gwerth y gwaed,
Er heb Amen, canfyddir Shôn
Yn codi ar ei draed.

Aeth dynion ieuainc caled, hy',
Er cael difyrrwch ffol
Un hwyr i wawdio wrth ei dy,—
Ond troisant yn eu hol
A braw a gwelwder ar bob gwedd,
Can's torrodd ar eu clyw—
Swn Shôn o ymyl gwlad yr hedd
Yn galw ar ei Dduw.

Fry yn yr unig anial gwm
Dan goedydd cnau ac ynn,
Y mae adfeilion bwthyn llwm
Yng nghanol drain a chwyn;
A Gwilym Shôn a ddaw bob dydd
I'r waen uwchlaw y ty,
Ac edrych ar yr adfail bydd
A chofio'r dyddiau fu.

Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,
Am ofyn im paham,—
O! gwel yn adfail dan y llwyn,—
Hen fwth ei dad a'i fam.
Bu yna'n chwareu'n blentyn llon,
Fe dyfodd yna'n ddyn,
Mae gweld y lle yn glwyf i'w fron,
Galara wrtho'i hun.

Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,
A'r drysni lle bu'r tân,
Bu yno'n gwrando swn y gwynt,
Bu yno'n canu cân,
A chyda'r teulu lawer gwaith
Bu'n plygu ar ei lin,
Cyn gwybod am ofidiau'r daith
Ar amgylchiadau blin.

Dan ormes colli wnaeth ei dad,
Y cartref llawn o hedd;
Yn fuan ei rieni mad
Orweddent yn y bedd.
Fe garai eneth dros y bryn
A chariad bore oes,—
Canfyddodd hithau'n mynd 'r glyn
A'i gafael yn y groes.

Ei galon dan y saethau dwys
A dorrai fel ei rudd,
Ei fywyd oll o dau y pwys
Ai beunydd yn fwy prudd,
Ond daw drwy'r storom waetha 'rioed
Ar fore gauaf llwm
I weld yr adfail dan y coed,
Ac wylo tua'r cwm;
A dyry dro i ben y bryn
Yn llaw clwyfedig serch,
I weld o draw y bwthyn gwyn,
Hen gartre'i gariad ferch.

BEN DAVIES.




Llyn y Fan.
(GWATWARGERDD).

Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,
'Does dim yn eu blino tra'u dwylo yn rhydd,
Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r Banau
I weled y Llynau—dwr llonydd.

Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,
Coed lemon, coed 'falau, yn flodau i'r brig,
Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwen
Hwy ledan' fel Eden fawledig.

Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,
Y riw a'r rhosmari yn tyfu o'r don;
Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,
Ac amryw o lysiau gwyrddleision.

Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanod
Yn llusgo'r llyswenod, llwyth hynod, o'u lle;
A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,
Wrth neidio at blufod y Blaene.

Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,
Na'u cofio 'nol eu canfod yn nghysgod y gwlydd;
Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u gwelsom
Yn nofio yn nghrochan y Crychydd.

Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath rali
Wrth dreulio ein carne drwy'r cernydd o dre,
Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,
Cewch wel'd yr un olwg a nine.

PWY YW'R AWDWR?




Ffrydiau Twrch.

Mae'r testyn wedi'i enwi
Ffrydiau Twrch,
A'r gronfa wedi tori
Ffrydiau Twrch;
Mae'r dyfroedd rhwng y cerig
Yn ffrydio'n grych berwedig
O rywle anweledig
Ym mol y bryn mynyddig
Uwchlaw'r Cellie hyllig,
A'i dwrf fel taran ffyrnig
Ar godiad tir rhwygedig,
A chreigiau maluriedig
Sydd yno'n rhesi unig
O gedyrn arfogedig
Yn gwylio'r dderwen dewfrig
Eistedda'n llwyn caeadfrig,
A'r pigau melldigedig,
A'r blodau caboledig,
A noda fan synedig
Ffrydiau Twrch.

A welsoch chwi y Ffrydiau?
Ffrydiau Twrch;
A daniwyd chwi gan donau
Ffrydiau Twrch?
Os naddo, ewch i'w gweled
Yn gyru dros y gwa'red
Yn ewyn gwyn i waered
Gan boeri ar eu pared,
A lluchio'r meini'n lluched
O hirbell yn ddiarbed;
Y cenllif gwyllt wrth fyned
Sy'n llamu bob yn llymed,
Gan rhwygo mal rhyw oged
Y tiroedd, gan ddweyd, Tyred
I'r moroedd er ymwared,
Fe chwala'r bryn cewch weled,
A'i feini ânt mor faned
A hoelion Tudur Aled;
Mac Twrch yn methu cerdded
O achos ei mawr syched,
A chwter James, er gwyched,
A safant oll nes yfed
Ffrydiau Twrch.

O'r Mynydd Du daw allan
Ffrydiau Twrch,
Yn fwrlwm gloew purlan,
Ffrydiau Twrch,
Gan rhuo, rhuo beunydd
A llu o ladron lledrydd
A'n gwlwm gyda'u gilydd
I chwilio am gorlenydd
Y defaid dofion beunydd,
A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,
A'u crogi rhwng y creigydd,
A'u gwerthu er eu gwarthrudd,
A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,
Ac arswyd yn y corsydd
Na ddaw eu gwir berchenydd
I wybod yn dragywydd
Am wal y drwg ymwelydd;
O! na bai i'r llifogydd
I beidio bod yn llonydd
Nes llifo dros eu glenydd,
A rhoddi pobo fedydd,
A boddi'r lladron llwydrudd,
Mi alwn hyn yn grefydd
Ffrydiau Twrch.

FFYNON-Y-CWAR.

FFYNON-Y-CWAR.


PONT-YNYS-TWLC.

PONT-YNYS-TWLC.

Parhâ i darddu'n gyson,
Ffrydiau Twrch,
Na syched byth dy ffynon,
Ffrydiau Twrch,
Ymlaen â thi, gan olchi
Y llygredd a'r budreddi
Sydd yn Nghwmtwrch yn croni,
Ac wrth y George boed iti
I aros o dosturi;
Hen Waterlw y cewri
Boed iti i ddifodi
Hen olion gwaed oddiarni,
A chario byth i golli
Yr hen esgidiau mawrfri
A gawsant eu pedoli
Fel carnau meirch Napoli
I gicio llawer bwli—
Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,
A llawer wedi tewi;
O ganol eu drygioni
Boed iti loewi a gloewi
Y llefydd ffordd y llifi,
Nes bo Cwmtwrch yn codi
Ar unwaith o'i drueni
Mor lân, mor bur a chenlli
Ffrydiau Twrch.

PWY YW YR AWDWR?




Angladd ar y Mynydd Du.

Yn yr hon ateser pan fyddai brodor o Llanddeusant farw yn Ystradgynlais elai pobl yr Ystrad â'r corph dros y mynydd hyd Aberdeudwrch, a deuai pobl Llanddeusant i'w gyfarfod yno i'w ddwyn i ben y daith.

Droe y mynydd i Landdeusant,
Heibio'r Gareg Goch a'r Llwyn,
Araf, araf, â'r cynhebrwng
Hyd y llethrau rhwng y brwyn;
Adref dros y llwybr garw,
Brodor sydd yn troi yn ol,
Un o ddefaid iesu ydyw,
Ddyga angeu yn ei gol.

Myn'd dros orwel draw i orwel
Mae cynhebrwng prudd y sant,
Myn y galon wrth fyn'd heibio
Ddweyd ei chyni wrth bob nant;
Ar lechweddau unig anian,
O! mor dawel yw yr awr,
Myn'd a'r elor tua'r fynwent
Trwy gynteddoedd gwyn y wawr.

Dacw'r dorf yn Aberdeudwrch,
Lle try rhai yn ol i dref,
Canant yno'n iach i'w gilydd,
Gyda chanu mawl i'r nef;—
"Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn,
Dros ennyd fechan ni 'madawn,
Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd
Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."
Myn yr hedydd ar ei aden
Uno yn y ffarwel brudd,
A rhoi odlau'r wawr i'r hwyrgan
Efo'i delyn fechan, gudd.

Gyrr y Cerrig Coegion hwythau
Emyn ateb ar eu hynt,
Hed yr emyn uwch y cymyl
Tua'r nef y'nghol y gwynt;
Fry, i fryniau iach y Wynfa,
Fry, ymhell tu draw i'r glyn,
Fe hebryngwyd sant o oror
Mynydd Du i Fynydd Gwyn.

Cefnymeusydd, Abercrave.
W. GWERNWY RICHARDS.




Y Gof Bach.

Ar lawrdir Cwmgiedd mor fyw yn fy nghof,
Yn ymyi yr afon yw'r hen efail gof;
A'r muriau yn llwydion, a'r heiyrn yn ystor,
A'r enwau cerfiedig ar hyd yr hen ddor.

Dyn bach o gorpholaeth oedd William y go',
Ychydig droedfeddi mewn plyg ydoedd o;
Ond er yn grymedig i'r byd dan ei faich,
'Roedd tân yn ei lygad, a dur yn ei fraich.

Gwr diwyd oedd William ar hyd ei oes hir,
A swn ei forthwylion fel clychau drwy'r tir;
Llwyr weithiau ei ddiwrnod ac ambell nos fawr
Bu'r efail yn wreichion hyd doriad y wawr.

Ni bu diniweittiach mewn efail yn bod,
Na neb yn hapusach waeth sut troai'r rhod;
'Roedd Martha ac yntau mewn llanw a thrai,
A'u gwenau bob amser fel blodau mis Mai.

Os byddai anifail dihwyl yn y fro,
Yr unig physigwr oedd William y go';
'Does undyn a wyr pa sawl un wnaeth e'n iach,
A ffroeni gwarogaeth wnai'r rhain i'r gof bach.

Fe drefnai wibdeithiau i'r Bannau bob haf,
A chodai y pentre i'r boreu teg, braf;
'Dyw taith i'r Cyfandir yn ddim byd yn awr
At daith y gof bach i ben y Fan Fawr.

Fe ddeuai'r merlynod ynghyd o bob parth,
Rhai buain o Balleg, rhai dofion o'r Garth;
A Dic, asyn Dosia, yn rhwym dan ei sach,
A ddysgai ufydd-dod—ddydd gwyl y gof bach.

Fel cadben yn arwain ei fyddin i'r gad,
Neu hyf anturiaethwr yn chwilio am wlad,
Y dygai ei fintai drwy'r corsydd a'r mawn,
A'r awel yn chwerthin drwy'r nef wrth ei ddawn.

'Roedd ganddo storiau—rhai doniol bob un,
A llawer un daclus o'i wead ei hun,
Storiau ei garu â lodes y Plas
"Yn y got a'r gwt fain a'r siaced gron las."

Mi'i clywais yn tystio, a phwy wyddai'n well?
Fod merlod y wlad yn ei adwaen o bell;
A rhedent pan gollent bedolau'n ddibaid
I'r fail at William i achwyn eu traed.

'Roedd William yn Gristion, a'i enaid bob dydd
Yn mwg yr hen efail yn gwynu mewn ffydd;
A llawer i noson ystyriem hi'n fraint
I glywed ei weddi yn nghyrddau y saint.

Bu'n iechyd i galon ac ysbryd y lle
Ei ddilyn i'r mynydd a'i wrando yn nhre';
'Roedd llwybrau cyfiawnder o hyd dan ei draed,
A bendith yn stor yn ei gynghor a gaed.

Mae'r afon o hyd yn myn'd drwy y lle,
A'r efail ar lawr, a'r gof bach yn y ne';
Ond adgof sy'n gofyn yn brudd ar ei hynt—
Pa'm na bae'r oes nawr fel yn yr hen oesau gynt?

G. AP LLEISION.

PENPARC.

PENPARC.


LLOCIO'R DEFAID.

LLOCIO'R DEFAID.




Ffynon y Brandi.

Ar ochr bryn yn Llywel lon
Mae'r ffynon loyw, lonydd,
A'i dyfroedd pur r'ont flas a blys
I hwylus wyr y mynydd;
O'r graig fe dardd ei phurol win,
Ar fin y ffordd mor handi,
Ni pherchir ffynon yn y plwy'
Yn fwy na Ffynon Brandi.

Er gwres yr haul a phoethder ha',
O! fel yr ia mae'r ffynon,
A pherlau grisial ar ei grudd
O ddydd i ddydd yn gyson;
Fe fethodd haul, a methu wna,
Fe ddigia wrth ei hoerni,
A gwel'd ei llun mewn dwfr oer
Wna'r lloer wrth Ffynon Brandi.

Yn nhymor haf canolddydd poeth,
Bu'n foeth i lawer crwydryn,
A llawer gipsy ar ei chlun
A wlychodd fin ei phlentyn;
Bugeiliaid ac ymdeithwyr sy',
A gweithwyr hy' Rhys Dafis,
Yn mon y mawn a'u bara chaws,
Yn lapio naws ei gwefus.

Tafarndy yw o oes i oes,
Heb feddwdod, noise, na nonsense,
Nis gall cyfreithiau Prydain Fawr
Fyth dori lawr y licence;
Y graig yw counter cryf y bar,
Ac ar ei gwar mae'r ffynon,
A Duw sy'n tynu o'r machine
Y gwin i'r daearolion.

Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,
A brith-goch ych Glasfynydd,
Y pony wyllt, a'r lodes lân,
A defaid mân y mynydd,
A phlant boch-cochion, heblaw Toss,
A Rover, Moss, a Handi,
Pob un yn dyfod yn ei dro
I dapo'r faril frandi.

Pe bae masnachwyr Llundain fawr
Yn dyfod lawr i Gymru,
Ac i dafarndy'r Trianglas
I brofi blas y brandi,
Caent ruddiau fel y damasc coch,
Ac fel y gloch, fonwesau,
Ac iechyd hir i fagu mêr,
A chryfder yn ei lwynau.

Do, lawer gwaith am amser hir,
Pan yn rheoli'r heolydd,
Mi ddrachtiais inau wrth y bar,
Yn unig ar y mynydd;
Ar ol manylu ar ei min,
A sugno gwin o'i gwefus,
Ces fara brith a chlwt o gaws,
Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.

Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,
Er cyfnod creadigaeth,
A Duw ei Hun fu'n tapo'r graig
Yn ddirgel mewn rhagluniaeth;
Eistedda dirwest ar ei sedd
Yn lân ei gwedd i'n lloni,
Diolchwn Dduw tra fyddwn byw
Am Ffynon wiw y Brandi.

RHYS DAVIES (Llew Llywel).




Dafydd y Neuadd Las.

Mac genyf dyddyn bychan
Ar fron y Mynydd Du,
Bu'n gysgod i'm yn faban,
I'm tad, a thaid nhadcu.

Mi gerddais pan yn blentyn
Hyd lethrau'r mynydd mawr;
A sengais "droed yr ebol"
Yn llaith gan wlith y wawr.

Ar ben y Lorfa dawel
Chwareuwn gyda'r wyn;
A miwsig nant y mynydd
Yn llifo dros y llwyn.

Do, treuliais lawer orig
Ar lan yr afon iach;
A gwynfyd i fy nghalon
Oedd dal y brithyll bach.

Bum yno wedi hyny
Yn cael fy nal fy hun,
Ond er i'm gael fy nala,
Mi ddeliais inau un.

Ar ben y Lorfa dawel
Aeth Gwen a'm calon oll;
A gwelodd yr hen fynydd
Ddwy galon fach ar goll.

Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,
Ac hyd y dyffryn bras,
Bu'r ddwy yn crwydro llawer
Cyn dod i'r Neuadd Las.

Aeth haner canrif heibio
Er daeth y rhain ynghyd,
Ond ieuanc yn y galon
Yw'r cariad cynta'i gyd.

Wrth ganu'r hen alawon
Ganasom gyda blas;
Un rhamant ydyw bywyd
Ar aelwyd Neuadd Las.

Cefnymeusydd, Abercraf.
RHYS DAVIES (Ap Brychan).



Cyw.

Ar ochr y Cribarth
Dwy afon fach sy'
Yn tarddu yn gyson
O fron Mynydd Du;
Cydredeg a dawnsio
Drwy'r ddôl mae y pâr,
A rhywun a'u henwodd
Yn geiliog a giar.

A chanu wna'r ceiliog
Yn llon yn y fro,
A'r iar sydd yn gregan
O hyd ar ei gro;
Chwareuant alawon
I'w gilydd heb ball,
A chanu a nesu
Mae'r naill at y llall.

'Nol caru a chanu
Drwy'r fawnen a'r pant,
Yn nghwlwm tangnefedd
Ymuna'r ddwy nant;
A ffrwyth y briodas
Yw'r afon fach, fyw,
Sy'n rhedeg i'r Giedd,
A'i henw yw—Cyw.




Llyn y Fan.

Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,
Af yn llawen tua'r llyn,
Lle mae ysbryd hen draddodiad
Byth yn aros yn ei wyn:
Crwydraf wrth y dyfroedd grisial,
Yno i wrando ar y gwynt
Sydd yn cwyno yn hiraethus
Ar ol rhamant dyddiau gynt.

Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes?
Pwy all ddweyd yr helynt fu
Ar y noson loergan gyntaf
Pan ddaeth ser i'r Mynydd Du
Pwy all ddenu'r graig i siarad
Am ei phrofiad, fore gwyn,
an y gwelodd hithau gyntaf
Arall graig yn nwr y llyn?

Ai rhyw afon fechan, unig,
Grwydrodd yma'n llesg a gwan,
Wedi colli'r ffordd i huno
Yn nhangnefedd craig y Fan?
Careg fechan yn y fynwent
Dd'wed am arall grwydryn cu,
Wedi colli'r llwybrau unig,
Hunodd ar y Mynydd Du.

Cân medelwyr ar y meusydd,
Gyda thoriad borau gwyn,
Ond mae'r gân o hyd yn marw
Wrth neshau i lan y llyn;
Unig, unig yw ei hanes,
Yma mae yn hedd i gyd,
Huna'n dawel yn y cysgod,
Wedi digio wrth y byd.

A fu adar y dryglinoedd
Yma'n hedfan ar eu hynt?
A fu'r dôn erioed yn gwynu
O dan fflangell lem y gwynt?
A fu udgorn hen y dymhestl
Yn adseinio ar ei lan?
Wyr ystormydd a chorwyntoedd
Am y ffordd i Lyn y Fan?

Nid oes yma swyn y lili,
Yma nid oes rhosyn gwiw,
Ond daw serch yn dirf ac iraidd,
Lle mae'r blodau'n methu byw;
Heb un llwybr ar y moelydd
I'w gyfeirio tua'r lan,
I'r unigedd a'r distawrwydd
Fe ddaeth serch i Lyn y Fan.

Gyda'i braidd mae'r bugail unig
Wrth y llyn yn rhodio'n rhydd,
Ond paham y ceidw'r defaid
Wrth y llyn ar hyd y dydd?
Nid yw'n clywed bref ddolefus
Dafad glwyfus ar y lan:
A fu bugail mor esgeulus
A Rhiwallon Llyn y Fan?

Wrth y Llyn gorwedda'r defaid,
Yno y breuddwydiant hwy:
Ond ni wyddant fod y bugail
Yn breuddwydio llawer mwy;
Beth yw'r pryder sy'n ei wyneb?
Fentrodd oen i'r dyfroedd glân?
Neu, a gollwyd un o'r defaid?
Pam mae'r bugail heb un gân?

'Does ond un all roi esboniad
Ar yr holl bryderon hyn:
Nis gall bugail fod yn llawen
Gyda'i galon yn y llyn:
Gwelodd yno feinir geinwen
Yn y dyfroedd teg, di-stwr,
Ac mae yntau fyth er hyny
Fwy na'i haner yn y dwr.

Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,
Cadd ei galon eto'n ol:
Gwelwyd dau yn rhodio'n llawen
Un boreuddydd dros y ddol;
Ond fe wawriodd boreu arall
Ar Rhiwallon wedi hyn,
Pan y gwelwyd gwraig y bugail
Eto'n ol yn nwr y llyn.

Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,
Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,
Pan fu serch yn crynu'n ofnus
Wrth y dyfroedd gloewion hyn;
Nid oes heddyw un Rhiwallon
Yn bugeilio ar y lan,
Ond mae ysbryd hen draddodiad
Eto'n fyw wrth Lyn y Fan.

Abercraf.
Parch. R. BEYNON, B.A.




Ar y Banau.

Clychau'r wawr sy'n canu
Ar y Mynydd Du,
Cilia ser o'r llynoedd,
Loewon lu.

Fly yn mhyrth y bore
Clywaf hedydd bach,
Yn dihuno asbri'r
Awel iach.

Fel cawodydd arian
Ei felodi dyn,
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.

Ffrydlif o hyawdledd
Yn y cwmwl gwyn;
Pe bai neb yn gwrando,
Canu fyn.

O! na bawn i'n hedydd,
Fyth yn llon fy llef,
Allwn ar adenydd
Hollti'r nef.

Blodau'r Grug sy'n gwrido
Yn eu cartre' cun,
Am fod cusan huan
Ar eu min.

Bu y nos yn wylo
Am fod tlysni nghudd,
Trodd y dagrau'n berlau
Ar eu grudd.

O! na bawn i'n flod'yn
Ar y mynydd pell,
Dal i berarogli,
Er yn mhell.

MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR

MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR


LLYN-Y-FAN.

LLYN-Y-FAN.

Teimlaf ar y mynydd
Swyn yr amser gynt;
Clywaf Fabinogi
Yn y gwynt.

Clywaf rhwng y creigydd
Ymchwydd tonnau'r aig;
Gwelaf eu hysgrifen
Ar y graig.

Gwelaf graith y dymhestl
Ar y bryniau erch,
Clywaf hefyd furmur
Suon serch.

Gwelaf las y wybren,
Cofiaf lygad Gwen,
Syrthiaf i'w chyfrinedd
Dros ym mhen.

Gwen yn awr yw byrdwn
Cân yr hedydd myg;
Er ei mwyn y gwrida
Blodau'r Grug.

Sonia'r neint am dani
Rhwng y grug a'r brwyn;
Llwythog yw yr awel
Gan ei swyn.

Dilyn ei huloliaeth
Ar y bannau hyn
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.

Ystradgynlais.
W. R. WILLIAMS.




Breuddwyd Adgof.

Rhyw noson yn fy mreuddwyd,
Yn esmwyth es am dro
Yn ol i gwmwd tawel
Fy ngenedigol fro,
A gwelwn Bontygiedd,
Heb fwthyn Pegi gynt,
A rhoes ochenaid hiraeth
Wrth basio yn y gwynt.

Es heibio'n brudd fy nghalon
I Blasycoed ar daith,
Ond Siams ni chefais yno,
Na'r dall basgedwr chwaith;
Gwag imi yr aneddau,
Heb un o'r cwmni llon,
A throais tua'r afon
I holi helynt hon.

Bu amser arni hithau
Yn amlwg wrth ei waith,
A gwelwn ol llifogydd
Ar hyd ei gwely llaith;
'Roedd hen athrofa nofio
Fydenwog Llyn y Sgwd,
Yn awr yn ynys goedig
Yn nghanol y ddwy ffrwd.

Es eto i Gae Ffynon,
Yr Arch, fu'n net ddigêl,
Lle'r aem i chwareu rounders
Yn ddedwydd gyda'r bel;
Ond, Ah! cauedig ydoedd,
Ac nid oedd cyfoed cu
Yn aros gyda'i "fando"
I son am bethau fu.

Mi deithiais eto i fyny
At efail y gof bach,
Lle buom lawer canwaith
Yn ymddigrifo'n iach;
Ond carnedd oedd yr efail
A'i bentan erbyn hyn,
A'r hen of bach duwiolaf
A aeth yn gerub gwyn.

Fe welais Craig-y-defaid,
'Roedd hon yr un o hyd,
Heb gyfnewidiad arni,
Er holl dreigliadau byd;
Y defaid arni borent
Yn ddifyr yn eu hedd,
Ond mae'r hen fugail gofiwn
Yn awr yn llwch y bedd.

Diosgais fy esgidiau
Wrth droi i'r fynwent brudd,
Ac hiraeth aeth yn gawod
O ddagrau dros fy ngrudd;
Darllenais ar y meini
Feddargraff tad a mam,
Ac enwau torf o ffryndiau
Boreuddydd mwyn, dinam.

Mi es am dro i'r capel,
Anwylaf yw i fil,
Lle dysgais fyn'd a'm hadnod
I'r cwrdd a'r Ysgol Sul;
Mi holais dan y pulpud—
Ble mae'r proffwydi glân
A welais gynt yn llosgi
O'i fewn yn ddwyfol dân?

Y seddau yma godent
Wynebau ger fy mron,
Hen seintiau haner canrif,
Colofnau'r deml hon;
A d'wedais wrth fy nghalon,
Y tadau nid y'nt mwy,
Y nef ar hyn agorodd,
A gwaeddais—Dacw hwy.

Deffroais o fy mreuddwyd,
A'r dydd oedd ar y wlad,
Dechreuais feddwl allan
Y freuddwyd mewn tristhad;
Deallais wedi hyny
Nad oedd y freuddwyd brudd
Ond gweledigaeth noswaith
O wrioneddau'r dydd.

Penygraig.
G. JAMES.




Cân y Dwyfundodiaid.

Rhyw fyrdd a mwy na hyny,
'Does neb all ddweyd ond Duw;
Yw haeddiant Crist yn drymach
Na phechod dynolryw:
Pe buasai yn yr arfaeth
I fyn'd i uffern dân,
Fe olch'sai'r holl gythreuliaid
I gyd yu berffaith lân.

Er cwrdd â geiriau newydd,
I roddi ei glod i ma's,
Ac uno â'r holl angelion,
Ac etifeddion gras;
Heb enwi dim o'r unpeth
Ond unwaith yn y gân,
Hyd eithaf tragwyddoldeb,
'Ddaw 'glod E' byth yn mla'n.

Pe bai angelion nefoedd
Bob un yn myn'd yn fil,
Ac enill rhyw fyrddiynau
Bob mynyd yn y sgil,
I roddi ei glod Ef allan
Am farw ar y pren,
Hyd eithaf tragwyddoldeb,
'Ddoi dim o'r gwaith i ben.

'Tai sant am bob glaswelltyn
Sydd ar y ddaear lawr,
A mil am bob tywodyn
Sy' ar fin y moroedd mawr,
Tafodau gan y rhei'ny
Fwy na rhifedi'r dail,—
Rhy fach i ddweyd gogoniant
Sy'n haeddiant Adda'r ail.

'Tai un o'r cor nefolaidd
Yn dod o'r nef i lawr
I rifo llwch y ddaear
A gwlith y borau wawr,
Fe allai wneuthur hyny
Mewn 'chydig iawn o bryd,
Dweyd haner haeddiant Iesu
Nid all y cor i gyd.

Dywedodd Duw ei Hunan
Wrth Abram yn ddiffael,
Lai lai i arbed Sodom,
Pe buasent yno i'w cael;
Ni dd'wedodd, ac ni ddywed,
Wrth un pechadur trist,
Ddim llai i gadw enaid
Na haeddiant Iesu Grist.

Mae dyndod glân i'w weled
Yn mherson Iesu hardd,
Pan ddaeth y milwyr ato,
A'i weled yn yr ardd,—
Eu cwympo 'ngwysg eu cefnau
A gair o'i enau, clyw,
Sy'n dangos i ni'n eglur
Ei fod yn gywir Dduw.

Mae 'ddoliad iddo'n perthyn,
'Nol dim ddeallais i,
Gan holl drigolion daear,
A lluoedd nefoedd fry:
Os gwir a dd'wed y Beibl,
Sef genau'r Ysbryd Glân,
Pa fodd gall Dwyfundodiaid
I ddwyn eu credo 'mla'n?

Fe rodd y Tad ei Hunan
Y cyfan yn ei law,
Sydd yn y nef a'r ddae'r,
A chymaint ag a ddaw:
Athrawiaeth gyfeiliornus,
I'w chredu nid oes llun,
I'r Duw anfeidrol fentro
Y rhai'n yn nwylaw dyn!

Os credai'r Dwyfundodiaid,
Rhaid i mi ddwyn yn mla'n
Ryw grefydd groes i'r Beibl,
A iaith yr Ysbryd Glân,
Sy'n dweyd mai'n enw'r Iesu
Y plyga pawb o'r bron,
Sydd yn y nef a'r ddaear,
A than y ddaear hon.

Os nad oedd ond creadur,
Mae gan iuddewon sail
I ddweyd yn ngwyneb Beibl
Na ddaeth mo Adda'r ail:
Yr achos fod y rhei'ny
Yn gwrthod Iesu, clyw,
Yw eisieu gallu credu
Ei fod yn berffaith Dduw.

'Dyw'r Tad o ran ei Berson
Yn barnu neb o'r byd;
Fe rodd bob barn yn gryno
Yn nwylaw'r Mab i gyd:
Os gwir dd'wed Dwyfundodiaid,
Nad oedd ond Dyndod, clyw,
Rhaid iddo farnu'r Beibl
Am ddweyd ei fod yn Dduw.

Mi wn i angeu gredu
Am Iesu ar y gro's
'Run peth a'r Dwyfundodiaid,
Mai Dyn oedd e'n ddi-os;
Newidiodd Hwn ei feddwl
Ar foreu'r trydydd dydd,—
Efe oedd wedi'i rwymo,
A'r Iesu'n rhodio'n rhydd.

Cynghora i'r Dwyfundodiaid
I gredu ar sicrach sail
Mai dyn oedd Adda'r cyntaf,
Duw-ddyn yw Adda'r ail;
Ei Ddyndod oedd yr aberth
Offrymwyd drosom ni,
A'i Dduwdod oedd yr allor
A'i daliai ar Galfari.

Nid all'sai Duw dim dyoddef,
'Doedd ganddo Ef ddim gwa'd,—
Heb ollwng gwaed, medd Beibl,
'Doedd dim foddlonai'r Tad;
Ei gyfraith lân droseddwyd,
A'r bai oedd ar y dyn,—
Cyn gwneud y rhwyg i fyny,
Rhaid clwyfo'r Mab ei Hun.

O credwch fod yr Iesu
Mor uchel Dduw a'r Tad,
Mor isel Ddyn a ninau,
Yn meddu cig a gwa'd;
Bydd 'rundeb yn rhyfeddod
I dragwyddoldeb hir,—
'Dall neb ei gyflawn ddirnad,
Ac eto mae yn wir.

'Rwy'n credu iddo ddyfod
O gariad lawr o'r nef,
'Rwy'n credu fod y Duwdod
Yn wastad ynddo Ef;
'Rwy'n credu fod e'n ddigon
I ateb cais y Tad,
A bod maddeuant cyflawn
I'r duaf yn ei wa'd.

Dych'mygaf wel'd angelion
A'u calon bron yn brudd,
Wrth fyn'd i uffern obry
I ro'i cadwynau'n rhydd,
I ollwng diafliaid allan,
Fwy na rhifedi'r dail,
I fynydd bach Calfaria,
I brofi'r Adda'r ail.

Dych'mygaf wei'd cyfiawnder
A'i filiau yno'n llawn,
A'r gyfraith lân droseddwyd
Yn gwaeddi, Rhaid cael Iawn;
A'r Tad yn cilio o'r golwg,
A'r Iesu ar y pren,—
Pa ryfedd bod i'r haulwen
Dair awr i guddio'i ben!

Dych'mygaf weli'd cythreuliaid
'N dynwared llawenhau,
Fod uffern yn agored,
A'r nefoedd wedi'i chau,
A'r Gwr a wnaeth y cyfan
Yn hongian ar y gro's,
A'r haul yn cuddio'i wyneb,
Nes gyru'r dydd yn nos.

Dych'mygaf wel'd ysbrydion
Y cyfiawn aeth i'r nef
Yn plygu lawr yn fynych
I edrych arno Ef,
A bron a gwaeddi allan—
Os Iesu gyll y dydd,
Cawn fyned oll i garchar
Na dde'wn ni byth yn rhydd.

Mae'r Gair yn dweyd i'r meini
I hollti fach a mawr,
A llen y deml rwygo
O fyny hyd i lawr,
A'r beddau ddechreu rhwygo,
A'r meirw neidio'n rhydd,—
Mae'n arwydd digon goleu
I angeu golli'r dydd.

A swn y gair Gorphenwyd,
Pan floeddiwyd ganddo Ef,
A gauodd ddrysau uffern,
Agorodd byrth y nef,
A dynodd o garcharau
Fyrddiynau i fod yn rhydd,
Trodd ddyffryn cysgod angeu
Yn hyfryd foreu ddydd.

'Does feddyg ar y ddaear,
Nac hefyd yn y nef,
'Mhlith dynion nac angelion,
Gyffelyb iddo Ef;
Gall symud pechod chwerw,
A chodi'r marw'n fyw,—
Anturiaf fy enaid arno,
'Rwy'n credu fod e'n fyw.

'Ddaeth barn y Dwyfundodiaid
Erioed i uffern, clyw,
Maent yno'n rhwym i gredu
Fod Iesu Grist yn Dduw;
Ac yn y nefoedd oleu
Diamheu nad oes un
Nad ydyw'n moli'n wastad
Y Duwdod yn y Dyn.

Cymerwch eich cynghori
Gan Lywydd dae'r a nef,
I chwilio'r Ysgrythyrau,
Sy'n tystio am dano Ef;
A pheidio credu'r diafol,
Peth annymunol yw,
Bod neb yn beiddio gwadu
Y peth a dd'wedodd Duw.

Y man ca'dd Satan fantais
Ar ddynion yn yr ardd,
Pan dwyllwyd Adda i fwyta
O'r pren oedd wedi ei wa'rdd
Canlyniad hyn sy'n effaith
Hyd yma ar gyflwr dyn,
Y diafol rhydd e'i gredu
Yr hyn ni chred ei hun.

OWAIN DAFYDD.

Gosodir y gân hon i fewn am fod ei hawdwr yn un o Frodorion y Mynydd Du.